Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 4 Mehefin 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.19 - 10.55 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Angela Burns AC Keith Davies AC Janet Howarth AC (yn lle Suzy Davies AC) Ann Jones AC (Cadeirydd) Bethan Jenkins AC Mike Hedges AC (yn lle Lynne Neagle AC) David Rees AC Simon Thomas AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Llywodraeth Cymru Kate Cassidy, Llywodraeth Cymru Martin Swain, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Marc Wyn Jones (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Suzy Davies, John Griffiths, Lynne Neagle ac Aled Roberts. Roedd Janet Haworth yn dirprwyo ar ran Suzy Davies a Mike Hedges ar ran Lynne Neagle.
2 Craffu ar waith y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog ynghylch materion sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc yn ei phortffolio. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r canlynol i'r Pwyllgor:
Rhagor o fanylion ar p'un a yw'r elfen sy'n ymwneud â phlant anabl yng nghyllideb Teuluoedd yn Gyntaf yn cael ei defnyddio i ddarparu cyfleusterau chwarae i blant ag anableddau; ac
I rannu gyda'r Pwyllgor y cynlluniau cychwynnol ar gyfer prosiect cyfranogiad Plant yng Nghymru ac unrhyw dargedau penodol a osodwyd.
3 Papurau i’w nodi
Nodwyd y papurau.
3.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru)
3.2 Ymchwiliad i Waith Athrawon Cyflenwi - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
3.3 Ymchwiliad i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed – Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
3.4 Llythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru
4 Eitem 4: Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod cyfan ar 10 Mehefin
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.